Pam oes rhaid i fi weithio gydag Ymddiriedolaeth St Giles/PACT cyn ac ar ôl i fi ddod allan o’r carchar?
Mae eich gweithwyr achos ailsefydlu yn darparu cefnogaeth a elwir yn Trwy’r Porth. Byddant yn gweithio gyda chi tra eich bod yn y carchar a’ch helpu i ailsefydlu yn y gymuned wedi i chi gael eich rhyddhau.
Pa gefnogaeth fydda i'n ei derbyn?
Mae’r gwasanaeth ‘Trwy’r Porth’ yn dechrau cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd y carchar. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion ac i ysgrifennu cynllun i’ch helpu i ailsefydlu yn y gymuned. Efallai bydd hyn yn cynnwys eich helpu i:
- Chwilio am rywle i fyw
- Rheoli’ch arian a dyledion
- Chwilio am swydd addas
- Chwilio am hyfforddiant neu gyrsiau addysg
- Cynnal perthnasau cadarnhaol
- Cael mynediad at wasanaethau iechyd
- Meddwl am eich dewisiadau yn eich bywyd
- Cael mynediad at wasanaethau cefnogi arbenigol.
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ac asiantaethau eraill sy’n gallu eich cefnogi pan fyddwch yn gadael y carchar.