Rydym wedi arwain y ffordd drwy greu uned ymchwil mewnol ein hunain. Mae ein hymchwilwyr yn gweithio â chefnogaeth gan ein huned gwybodaeth busnes i ddeall beth sy’n effeithiol mewn lleihau aildroseddu. Er mwyn cadw ar flaen y gad, mae dadansoddiadau seiliedig ar dystiolaeth yn hanfodol i ddeall anghenion defnyddwyr ein gwasanaeth a natur newidiol troseddu.
Mae ein hymchwil yn cwmpasu:
Modelau gwasanaethu
Gwerthuso prosesau sefydliadol i helpu i lunio strwythurau rheoli, datblygiad staff, rheoli risg a gorfodi dedfrydau’r llysoedd.
Gweithio gyda phobl ar brawf
Cynllunio, treialu a gwerthuso dulliau o weithio gyda phobl ar brawf, ar y cyd â’u teuluoedd, asiantaethau eraill a chymunedau.
Ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth
Edrych ar ddulliau ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth o fannau eraill yn y DU ac ar draws y byd.
Ymyriadau
Gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni ac ymyriadau a sut maent yn helpu i leihau aildroseddu.
Arferion goruchwylio a rheoli
Codi ymwybyddiaeth o arfer gorau mewn goruchwylio a rheoli defnyddwyr gwasanaeth.
Amlinellir ein hymrwymiad i gynhyrchu ymchwil moesegol a chyfrifol yn ein strategaeth a chod moeseg.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i rannu canfyddiadau ein hymchwil, adroddiadau a mewnwelediadau â phobl rydym yn eu cefnogi; ymarferwyr a phartneriaid ar draws y sector cyfiawnder troseddol, gan gynnwys prifysgolion, elusennau a sefydliadau proffesiynol.
Rydym yn rhannu ein gwaith trwy gyfnodolion academaidd a masnachol megis Probation Quarterly a’r Probation Journal.
Cymryd rhan
Mae gennym ddiddordeb mewn gweithio gyda’r gymuned ymchwil, academaidd a chyfiawnder ehangach.
I siarad ag aelod o’n tîm ymchwil neu i drefnu ymweliad â’n huned ymchwil, llenwch ein ffurflen gysylltu.
Ein hymchwilwyr

Kerry Ellis-Devitt

David Coley

Stacey Musimbe-Rix
