Mae gwerthoedd a hunaniaeth prawf sefydledig yn sail i’n model gweithredu. Rydym yn canolbwyntio ar brif ddiben y system prawf sef gweithredu dedfryd y llys, lleihau aildroseddu ac amddiffyn y cyhoedd.
Yn aml mae gan y bobl rydym yn gweithio gyda nhw anghenion cymhleth ac rydym yn cydnabod nad oes atebsyml. Ein nod yw gweithio gyda phob defnyddiwr gwasanaeth yn unigol i drafod yr anghenion sy’n gysylltiedig â’u hymddygiad ac i gydweithio â phartneriaid i ddarparu gwasanaeth effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio arfer seiliedig ar dystiolaeth i wella ansawdd ein gwasanaeth yn barhaus.
Gan weithio gyda’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, rydym yn teilwra ein cefnogaeth, fel ei bod yn effeithiol o ran atal aildroseddu gan bobl y mae’n eu rheoli sydd â dedfrydau cymunedol a thrwyddedau.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau datganoledig yng Nghymru i sicrhau y bodlonir anghenion defnyddwyr ein gwasanaeth.