Mae Gwneud Iawn â’r Gymuned o fudd uniongyrchol i’n cymunedau lleol gan fod defnyddwyr gwasanaeth yn gwneud gwaith heb dâl.
Gall y llys ddedfrydu unigolion i hyd at 300 awr o waith heb dâl. Mae’n rhaid i unigolion weithio o leiaf saith awr yr wythnos, ond os nad oes swydd ganddynt, efallai bydd rhaid iddynt weithio eu horiau yn fwy dwys.
Ni ddylai’r gwaith ddisodli gwaith â thâl a wneir gan eraill.
Mae Gwneud Iawn â’r Gymuned yn darparu:
- Cosb – gwaith heriol ac ymdrechgar sy’n gweithredu fel cosb ac ataliad gweladwy
- Gwneud Iawn – ffordd y gall defnyddwyr gwasanaeth roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lleol sy’n dioddef oherwydd trosedd
- Adsefydlu – cyfle i ddefnyddwyr y gwasanaeth wneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned leol a datblygu sgiliau a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith.
Mae goruchwylydd yn goruchwylio gwaith defnyddwyr gwasanaeth ar brosiectau.
Gallwn ddefnyddio hyd at 20% o oriau gwaith heb dâl i helpu unigolion i fynychu hyfforddiant sy’n ymwneud â chyflogaeth neu addysg a allai arwain at gymwysterau.
Mae’r prosiectau ar raglenni Gwneud Iawn â’r Gymuned o fudd; rydw i’n teimlo fel fy mod i’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.
Enwebu prosiect
Oes gennych brosiect rydych yn meddwl y gall Gwneud Iawn â’r Gymuned eich helpu gydag ef?
Oes? Yna enwebwch brosiect drwy anfon e-bost at y ddolen hon