A yw’r llys wedi’ch dedfrydu i orchymyn cymunedol neu ddedfryd ohiriedig?
A ydych wedi gadael y carchar ar drwydded neu dan oruchwyliaeth ôl-ddedfryd?
Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn gyfrifol am reoli dedfrydau cymunedol a thrwyddedau. Efallai bydd eich rheolwr troseddwyr o’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn eich cyfeirio atom i gwblhau rhan o’ch dedfryd gyda ni. Efallai bydd hyn gan y rhoddwyd gwaith heb dâl i chi, neu fod angen i chi gwblhau rhaglen neu fod angen cefnogaeth a chymorth ychwanegol arnoch. Gall ein gwasanaethau eich helpu i symud o’ch ymddygiad troseddu a gwneud newidiadau cadarnhaol i’ch bywyd.
Bydd eich rheolwr troseddwyr o’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn amlinellu beth fydd rhaid i chi ei wneud i gwblhau’ch dedfryd yn llwyddiannus. Bydd hefyd yn dweud wrthych pa gymorth y byddwn yn ei roi i chi gyda’ch adsefydliad. Bydd ein ffocws ar eich helpu gyda materion sy’n gysylltiedig â’ch aildroseddu, fel:
- chwilio am rywle i fyw
- chwilio am swydd
- problemau gydag alcohol a chyffuriau
- adeiladu perthnasau cadarnhaol neu wneud newidiadau cadarnhaol yn eich bywyd.
Byddwn yn sicrhau eich bod yn deall beth y gallwch ddisgwyl gennym a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros yr hyn sy’n digwydd, y camau y gallwch eu cymryd a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi. Os oes gennych gwestiynau sy’n ymwneud â’ch rheolaeth gyffredinol, rydym yn eich annog i drafod y rheini â’ch rheolwr troseddwyr.
Cael atebion i gwestiynau cyffredin a ofynnir am y daith prawf: