Mae rhaglen, neu gwrs, yn gallu rhoi’r sgiliau, hyder a gwybodaeth i chi i’ch helpu i beidio aildroseddu.
Yn aml, byddwch yn cwblhau rhaglen mewn grŵp, ond efallai byddwn yn gweithio gyda chi ar eich pen eich hun weithiau.
Rydym yn cynnig amrediad o raglenni y bydd rhaid i chi efallai eu mynychu fel rhan o’ch dedfryd. Gallant ymdrin â materion sy’n gysylltiedig â’ch trosedd megis cam-drin domestig, rheoli dicter, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol neu sgiliau meddwl. Efallai byddant hefyd yn eich helpu i wella eich cyfleoedd i gael swydd neu i ddysgu sgiliau ymarferol megis sut i reoli’ch arian.
Bydd eich rheolwr troseddwyr y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn esbonio pa raglenni y bydd am i chi eu mynychu a sut y bydd yn eich helpu.
Dylai eich helpu i gael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i beidio aildroseddu.
Gall rhaglenni eich helpu i ddysgu am ffyrdd i ymdopi â phroblemau yn eich bywyd fel eich bod yn gallu delio â nhw mewn ffordd gadarnhaol.
Mae’n dibynnu ar y rhaglen. Mae rhai yn fyr ac efallai bydd eraill yn gofyn i chi fynychu bob wythnos am flwyddyn neu ragor.
Bydd eich rheolwr troseddwyr y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn esbonio yn eich sesiwn ymsefydlu pa raglenni y byddwch yn eu mynychu ac am faint y byddant yn para.
Ar y rhan fwyaf o raglenni, rydym yn eich annog i siarad am eich trosedd a throseddu i’ch helpu i gael y gefnogaeth gywir ac i ddod o hyd i strategaethau perthnasol i’ch helpu yn y dyfodol.
Rydym yn cyflawni’r rhan fwyaf o’n rhaglenni mewn grwpiau. Mae peth gwaithun-i-un.
Efallai byddwn yn gweithio gydag unigolion yn unigol lle bo angen penodol. Byddwn yn cytuno ar hyn â’ch rheolwr troseddwyr yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol cyn i unrhyw raglen ddechrau.
Bydd rhaid i ni rannu gwybodaeth â’ch rheolwr troseddwyr yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i’w helpu i roi’r gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnoch. Efallai bydd adegau pan fydd angen i ni ddarparu gwybodaeth i asiantaethau eraill megis darparwyr tai, darparwyr triniaeth neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gefnogi’ch adsefydliad. Bydd hyn gyda’ch cydsyniad chi. Ond, os ydych yn rhoi gwybodaeth i ni sy’n gysylltiedig â risg o niwed posibl i chi neu eraill, neu am drosedd sydd wedi neu a allai gael ei chyflawni, mae dyletswydd arnom i drosglwyddo’r wybodaeth hon i’r asiantaeth berthnasol.
Pan fyddwch yn cymryd rhan mewn grŵp, rydym yn gofyn i aelodau barchu cyfrinachedd pobl eraill.
Efallai byddwn yn gofyn i chi drafod sut y byddwch yn ymdopi â phroblem neu ofyn i chi roi cyngor i bobl eraill am sut y gallant ymdopi â phroblem. Byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau gweithgareddau ar rai cyrsiau, megis gofyn i chi ysgrifennu’ch CV neu gwblhau gwaith papur i wneud cais am fudd-daliadau neu i agor cyfrif banc.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’ch rheolwr troseddwyr y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol os na allwchfynychuapwyntiad. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth iddynt os ydych yn colli sesiwn.