Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi defnyddwyr gwasanaeth trwy eu dedfrydau.
Gall gwirfoddolwyr fod yn gefnogol mewn sawl ffordd gan gynnwys gyda hobïau a diddordebau, ymuno â chlybiau a chymdeithasau, cadw’n heini neu wneud ffrindiau newydd.
Gall gwirfoddolwyr hefyd helpu gyda phroblemau ymarferol neu, yn syml, bod yn rhywun y gall defnyddwyr gwasanaeth siarad â nhw.
Mae bod yn wirfoddolwr wedi rhoi’r hyder i fi allu newid fy ngyrfa i weithio i helpu pobl.
Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir ac yn gweithio i annog pobl ag euogfarnau blaenorol i wirfoddoli. Mae angen i chi fod yn hŷn na 18 oed ac os ydych wedi bod ar brawf yn y gorffennol, rhaid bod o leiaf 12 mis ers diwedd eich gorchymyn neu drwydded.
Mae gweithio fel gwirfoddolwr yn gallu rhoi mewnwelediad gwerthfawr i waith staff prawf, a’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol dim ond meddwl agored, awydd i helpu pobl eraill ac ambell i awr rydd yr wythnos.
Mae gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant achrededig a bydd rhaid iddynt fynd trwy weithdrefnau fetio.
Hoffech chi wirfoddolwr? e-bostiwchy ddolen hon