Mae cyfiawnder adferol yn rhoi cyfle i chi gwrdd neu gyfathrebu â dioddefwr eich trosedd. Efallai byddwch yn cwrdd â nhw wyneb yn wyneb neu’n cyfathrebu trwy rywun arall neu drwy ysgrifennu llythyrau.
Gall eich helpu i ddeall effaith eich trosedd ac adfer y niwed a achoswyd i’r dioddefwr.
Efallai y gallwch gwrdd â’ch dioddefwr trwy broses a elwir yn Gyfiawnder Adferol. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bobl ar brawf yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb ynhyn, dylech siarad â’ch swyddog cyfrifol.
Byddwch yn cwrdd â hwylusydd a fydd yn gofyn i chi am eich trosedd a’ch rhesymau dros fod eisiau cwrdd â’r dioddefwr. Os yw’r dioddefwr hefyd eisiau cymryd rhan, byddwch yn cwrdd â’r hwylusydd sawl gwaith i benderfynu beth rydych eisiau ei ddweud wrth y dioddefwr ac i baratoi ar gyfer y cyfarfod.
Bydd yr hwylusydd hefyd yn cwrdd â’r dioddefwr i’w helpu ef neu hi i baratoi ar gyfer y cyfarfod.
Gallwch gynnig eich hun ar gyfer cyfiawnder adferol:
- Os ydych yn derbyn eich bod wedi cyflawni’ch trosedd
- Os oes dioddefwr i’chtrosedd
- Os nad yw’ch trosedd yn ymwneud â cham-drin domestig neu ymddygiad rhywiol niweidiol.
Nac oes. Gallwch gymryd rhan mewn cyfiawnder adferol heb gwrdd â’ch dioddefwr wyneb yn wyneb. Mae hyn yn golygu cyfathrebu â’ch dioddefwr trwy hwylusydd.
Na fydd. Ni fydd cymryd rhan mewn cyfiawnder adferol yn cael unrhyw effaith ar eich dedfryd.
Yn ystod y cyfarfod gyda’r dioddefwr, byddwch yn esbonio beth ddigwyddodd ar ddiwrnod y drosedd. Byddwch hefyd yn gwrando ar sut mae’r drosedd wedi effeithio ar y dioddefwr a chewch gyfle i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y dioddefwr. Gofynnir i chi hefyd feddwl am beth allwch ei wneud i adfer y niwed mae’ch trosedd wedi’iachosi.
Nac oes. Chi sy’n penderfynu a ydych yn ymddiheuro fel rhan o gyfiawnder adferol.
Chi sy’n penderfynu a ydych eisiau cymryd rhan mewn cyfiawnder adferol. Gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg. Gall y dioddefwr hefyd newid ei feddwl ar unrhyw adeg.
Mae cyfiawnder adferol yn rhoi cyfle i chi i wneud rhywbeth cadarnhaol. Rydym yn deall bod dysgu sut mae’ch trosedd wedi effeithio ar ddioddefwr yn gallu bod yn heriol. Ond, gall cymryd rhan mewn cyfiawnder adferol eich helpu i wneud iawn a roi eich trosedd tu cefn i chi. Mae’r broses hefyd yn eich helpu i ddeall yr effaith mae’ch troseddu wedi’i chael ar bobl eraill, sy’n rhoi’r cymhelliad i chi wneud newidiadau parhaol yn eich bywyd i’ch atal rhag aildroseddu.
Os oes gennych ddiddordeb ynhyn, dylech siarad â’ch swyddog cyfrifol.