Wales > Cod moeseg

Cod moeseg

Cod moeseg

Uned Ymchwil KSS CRC

 

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ymrwymiad Uned Ymchwil KSS CRC i gynnal ymchwil moesegol. Mae pum adran i’r canllaw. Y rhain yw:

  • Cyfrifoldeb i gyfranogwyr
  • Cynnal ymchwil gyda defnyddwyr gwasanaeth
  • Ymchwil ar y rhyngrwyd
  • Ymchwilio o’r tu fewn (ymchwil mewnol)
  • Materion moesegol eraill

Cyfrifoldeb i gyfranogwyr

  • Diogelu rhag niwed – mae’r Uned Ymchwil wedi ymrwymo i sicrhau nad yw cymryd rhan mewn ymchwil yn creu risg corfforol neu seicolegol i gyfranogwyr. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd yr ymchwil yn ymwneud â rhai sy’n fregus oherwydd anghydbwysedd pŵer, er enghraifft ymchwil yn ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd. Mae camau penodol i leihau’r risg o niwed[1] yn cynnwys sicrhau bod cyfranogwyr yn deall eu hawliau yn glir fel cyfranogwyr ymchwil (gweler yr adran ar gydsyniad ar sail gwybodaeth, twyll a’r hawl i dynnu’n ôl am ragor o fanylion); cynnal ymchwil mewn amgylcheddau diogela, ble bo’nberthnasol, darparu gwybodaeth am wasanaethau cefnogaeth i gyfranogwyr sy’n cymryd rhan mewn ymchwil mwy sensitif (gweler hefyd adrodd yn ôl ac ôl-ofal).
  • Anhysbysrwydd a chyfrinachedd – gwneir pob ymdrech i sicrhau anhysbysrwydd a chyfrinachedd cyfranogwyr, gyda therfynau unrhyw sicrwydd o’r fath yn cael eu hesbonio ar gychwyn unrhyw weithgaredd ymchwil. Gan adlewyrchu Cod Moeseg Cymdeithas Troseddeg Prydain (2006), bydd yr Uned Ymchwil hefyd yn dilyn y ‘dyletswydd cyfrinachedd’ hon trwy beidio pasio data adnabyddadwy ymlaen i unrhyw drydydd parti heb gydsyniad y cyfranogwyr (gweler hefyd Ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun). Bydd yr uned yn gweithio o fewn cyfyngiadau deddfwriaeth bresennol dros faterion megis eiddo deallusol (yn cynnwys hawlfraint, nodau masnach, patentau), preifatrwydd a chyfrinachedd, diogelu data a hawliau dynol (BSC, 2006). Ar achlysur prin pan fydd cyfrinachedd ac anhysbysrwydd yn cael ei hepgor, byddai hyn am resymau cyfreithiol yn unig (h.y. datgelu gwybodaeth berthnasol i’r heddlu – gweler yr adran ar gynnal Ymchwil gyda Defnyddwyr Gwasanaeth am ragor o wybodaeth) neu oherwydd materion yn ymwneud â diogelwch a lles y cyfranogwr neu’r rhai sy’n agos at y cyfranogwr. Er enghraifft, os yw’r cyfranogwr wedi nodi ei fod/ei bod yn cael ei niweidio neu yn niweidio (neu’n bwriadu niweidio) eraill. Os ceir datgeliad o’r fath, byddai’r cyfranogwr yn cael ei hysbysu o ddyletswydd yr ymchwilydd i’w adrodd wrth yr awdurdod priodol[2]
  • Cydsyniad ar sail gwybodaeth, twyll a’r hawl i dynnu’n ôl – bydd cyfranogwyr yn cael gwybod beth mae’r ymchwil yn ei drafod, pam ei fod yn rhan o’r gwaith a sut fydd ei wybodaeth yn cael ei defnyddio. Rhoddir esboniad trylwyr o ffurflenni cydsyniad a dalenni gwybodaeth a chânt eu llofnodi cyn cychwyn unrhyw ymchwil. Bydd pob cyfranogwr yn cael copi ar gyfer ei gofnodion ei hun. Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael eu hysbysu o’u hawl i dynnu’n ôl o’r ymchwil, ac y gallant wneud hyn ar unrhyw adeg am ba bynnag reswm[3]. Ar gyfer cyfranogwyr bregus (e.e. dan 18 oed, pobl hŷn neu oedolion gydag anableddau dysgu), fel yr argymhellir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, byddant yn cael amser a chyfle i gael mynediad at gefnogaeth i wneud penderfyniadau, er enghraifft trafod eu dewis gydag oedolyn yr ymddiriedir ynddo neu berthynas (‘Ymchwil gyda phobl a allai fod yn fregus.’, heb ddyddiad).
  • Adrodd yn ôl ac ôl-ofal – mae’r Uned Ymchwil wedi ymrwymo i ‘ddyletswydd gofal’ i gyfranogwyr. Pan fydd gweithgaredd ymchwil (e.e. cyfweliad, grŵp ffocws, gweithdy, arolwg ac ati) wedi dod i ben bydd y cyfranogwr yn cael ei hysbysu eto am yr hyn y mae wedi cymryd rhan ynddo a pham, a beth fydd yn digwydd i’w wybodaeth. Yna bydd y cyfranogwr yn cael cyfle i holi cwestiynau neu ofyn am ragor o wybodaeth ynghylch yr ymchwil (fe gynigir hyn trwy e-bost os yw’r ymchwil wedi ei gynnal ar-lein – gweler Ymchwil ar y rhyngrwyd am ragor o fanylion). Ar gyfer ymchwil wyneb yn wyneb, bydd hon hefyd yr adeg pan fyddwn yn cynnal gwiriadau llesiant, er enghraifft yn gwirio bod y cyfranogwr yn hapus gyda’r broses ymchwil ac nad oes ganddo/ganddi unrhyw amheuon, pryderon neu ofid. Ar gyfer ymchwil sy’n trafod pynciau sensitif (e.e. cam-drin, camddefnyddio sylweddau, gamblo, dioddefwr trosedd ac ati) efallai y darperir gwybodaeth ychwanegol yn disgrifio gwasanaethau cefnogaeth perthnasol a phriodol. Darperir manylion cyswllt yr Uned Ymchwil hefyd os bydd gan gyfranogwyr unrhyw ymholiadau neu bryderon yn ddiweddarach.
  • Cadw data cyfranogwyr – bydd holl wybodaeth a data ymchwil cyfranogwyr yn cael eu cadw’n ddiogel a chyfrinachol yn Amgylchedd diogel KSS CRC. Bydd ffolder penodedig ar gyfer ymchwil fydd ar gael i aelodau awdurdodedig yr Uned Ymchwil yn unig. Hefyd, bydd data personol a data ymchwil craidd ond yn hygyrch i ddau ymchwilydd yr Uned, oni bai bod cyfranogwr yn gwneud Cais am fynediad at ddata gan y testun (gweler isod). Mae’r lefel ychwanegol hon o ddiogelwch wedi ei sefydlu i sicrhau bod data sensitif posibl gan staff KSS CRC yn aros yn gyfrinachol, hyd yn oed rhag yr uwch reolwyr. Yn bwysig iawn, bydd cyfranogwyr ymchwil yn cael eu hysbysu y bydd unrhyw ddata yn cael ei roi mewn archifau digidol, a bydd eu data craidd, dienw (h.y. data nad yw’n bersonol ac adnabyddadwy) yn cael ei gadw am o leiaf ddeng mlynedd. Yn olaf, yn unol â’r cyfreithiau newydd yn ymwneud â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), gall cyfranogwyr dileu neu gyrchu unrhyw ddata personol ar unrhyw adeg.
  • Ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun (SAR) – Dan Erthygl 15 y GDPR, mae gan bawb hawl i gael mynediad at unrhyw ddata personol a gedwir amdanynt gan sefydliad, ac i wybod sut mae’r sefydliad hwnnw yn prosesu a defnyddio’r data. O ran cyfrinachedd ymchwil, gall hyn fod yn anodd oherwydd yn ôl y gyfraith rhaid i’r sefydliad gynnig mynediad i’r holl wybodaeth a gedwir am unigolyn, ac mae hyn yn cynnwys data ymchwil. I ddelio â hyn felly, fe ofynnir i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n cymryd rhan yn ein hymchwil am eu caniatâd i roi nodyn ar eu ffeil yn MySIS. Yna os derbynnir SAR yn ddiweddarach, mae’r aelod o staff cyfrifol yn gwybod y dylai gysylltu â’r Uned Ymchwil i gael mynediad at ddata ymchwil yr unigolyn hwnnw hefyd. Er bod hyn yn cyfaddawdu i raddau ar gyfrinachedd o ran y bydd yn hysbys bod defnyddiwr gwasanaeth wedi cymryd rhan mewn prosiect ymchwil (er heb unrhyw fanylion pellach), yn gyfreithiol mae hyn yn trosi i amddiffyniad cadarn o hawliau’r unigolyn o ran mynediad at ei ddata. Fe esbonnir y broses hon yn llawn cyn i ddefnyddiwr gwasanaeth gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil, a bydd yn cael ei chymeradwyo fel rhan o’r cydsyniad ar sail gwybodaeth.

Cynnal ymchwil gyda defnyddwyr gwasanaeth

Mae cynnal ymchwil gyda phobl o fewn y system cyfiawnder troseddol (yn y ddalfa ac yn y gymuned) yn gofyn am lefel bellach o ystyriaeth o ran ymarfer foesegol. Mae defnyddwyr gwasanaeth yn boblogaeth fregus, ac mae’n rhaid ystyried nifer o faterion atodol – yn ychwanegol i’r cyfrifoldebau moesegol cyffredinol i gyfranogwyr. Amlinellir y rhain isod.

  • Diogelu rhag niwed – mae cynnal ymchwil gyda defnyddwyr gwasanaeth yn cyflwyno nifer o ystyriaethau cymhleth o ran pŵer, yn arbennig yn achos yr Uned Ymchwil ble mae ei lleoliad yn rhan o KSS CRC yn cynyddu’r anghydbwysedd pŵer gyda defnyddwyr gwasanaeth. Felly, nid yn unig y bydd y cyfrifoldebau cyffredinol ar gyfer cynnal ymchwil dynol moesegol (fel yr amlinellwyd yn flaenorol) yn berthnasol, gwneir ymdrech ychwanegol i sicrhau defnyddwyr gwasanaeth na fydd eu cyfranogiad yn effeithio mewn unrhyw fodd ar eu perthynas gyda’r CRC nac yn gysylltiedig mewn unrhyw fodd i gwblhau eu Gorchymyn. Yn olaf, gwneir hi’n glir nad oes gorfodaeth ar unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth i gymryd rhan. Yn wir, bydd natur wirfoddol cyfranogiad yn cael ei bwysleisio ar bob cam.
  • Ymchwil a gofnodir yn ddigidol – mae ymchwil wedi dangos y gall y rhai sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol fod yn fwy cyndyn i gael recordio eu llais na chyfranogwyr eraill oherwydd pryderon o ran cyfrinachedd, ymddiriedaeth a risg posibl (Sandberg a Copes, 2012). Ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy’n cymryd rhan ym mhrosiectau ymchwil KSS CRC, bydd yr opsiwn i wrthod cofnodi digidol yn cael ei ategu gan gynnig y dewis o opsiynau cofnodi eraill h.y. nodiadau cyfweliad(a ysgrifennir yn ystod casglu data) neu nodiadau maes (a ysgrifennir wedi casglu data).[4]
  • Ymchwil mewn carchardai – ar yr achlysuron prin pan fydd ein hymchwil gyda defnyddwyr gwasanaeth yn digwydd yn y ddalfa, fe ddefnyddir yr un protocol moesegol ag sy’n berthnasol i ymchwil gyda defnyddwyr gwasanaeth yn y gymuned. Fodd bynnag, ar achlysur o’r fath, ceisir caniatâd o flaen llaw trwy gais i HMPPS (yn unol â’u canllaw ar-lein – https://www.gov.uk/government/organisations/her-majestys-prison-and-probation-service/about/research).
  • Mynediad ymlaen llaw at wybodaeth – o ystyried lleoliad y tîm ymchwil o fewn CRC Caint, Surrey a Sussex, mae data ar ddefnyddwyr gwasanaeth ar gael ar unwaith mewn modd na fyddai ar gyfer ymchwilwyr allanol. Yma, mae’r Uned Ymchwil yn nodi ei chyfrifoldeb moesegol i ddefnyddio system asesu a gwybodaeth troseddwyr (MySIS) mewn ffyrdd sy’n berthnasol a phriodol i’r ymchwilyn unig. Er enghraifft, er y gallai ymchwilwyr ddefnyddio’r system i gynnal dadansoddiad ar faes pwnc penodol o ran nodweddion troseddwyr (gan ddefnyddio protocol tebyg i archwiliadau mewnol KSS CRC), ni fydd y systemau yn cael eu defnyddio i ‘gadw golwg’ ar y defnyddwyr gwasanaeth i weld a yw’r hyn a awgrymwyd ganddynt yn yr ymchwil yn cyd-fynd â phatrymau ymddygiad diweddarach. Gweler Ymchwil mewndarddol: Cynnal ymchwil o’r tu fewn i gael rhagor o wybodaeth am gynnal ymchwil mewnol.

Ymchwil ar y rhyngrwyd

Fel y nodir gan Sugiura, Wiles a Pope (2017, t.185), mae ymchwil ar-lein wedi creu heriau newydd ar gyfer pwyllgorau moeseg, sefydliadau ac ymchwilwyr, ac wedi gorfodi ailystyried o ran ‘egwyddorion moesegol sefydledig sef cydsyniad ar sail gwybodaeth, preifatrwydd ac anhysbysrwydd’. Er enghraifft, mae yna bellach heriau penodol ac unigryw yn ymwneud â phreifatrwydd ar-lein; cael cydsyniad ar sail gwybodaeth am wybodaeth sydd eisoes yn y parth cyhoeddus; materion o ran bod yn adnabyddadwy; a gofynion cyfreithiol penodol o ran diogelu data (‘Ymchwil rhyngrwyd cyfryngol’, heb ddyddiad). Mae preifatrwydd a diogelwch unigolion eraill yn fater difrifol iawn i’r Uned Ymchwil. Amlinellir ein hymrwymiad i ymchwil ar y rhyngrwyd moesegol isod:

  • Cyfryngau cymdeithasol – arferir gofal os defnyddir safleoedd cyfryngau cymdeithasol (e.e. Twitter, Instagram, Facebook ac ati) fel ffynonellau data. Os yw defnydd safleoedd o’r fath yn cael ei ystyried i fod yn berthnasol i brosiect penodol, dim ond data sydd wedi ei fwriadu’n benodol i fod yn y parth cyhoeddus a ddefnyddir h.y. pan fydd gosodiadau preifatrwydd wedi eu gosod arcyhoeddus[5]. Hefyd, os defnyddir cyfryngau cymdeithasol i recriwtio cyfranogwyr, dim ond trwy rannu gwybodaeth yn y parth cyhoeddus gan yr Uned Ymchwil fydd hyn. Ni thargedir unrhyw gyfrifon preifat ar gyfer dibenion o’r fath, ac ni ddefnyddir unrhyw wybodaeth breifat.
  • Bod yn adnabyddadwy ar-lein[6] wrth ddefnyddio dulliau fel arolygon/holiaduron ar-lein, ni fydd angen i gyfranogwyr roi gwybodaeth adnabyddadwy. Efallai y bydd opsiwn i gyfranogwyr ychwanegu manylion personol (os bydd yn cymryd rhan mewn ymchwil bellach), ond bydd hyn yn ôl dewis y cyfranogwr. Gallai cynnal ymchwil ansoddol ar-lein ac/neu ddefnyddio’r rhyngrwyd i recriwtio cyfranogwyr posibl olygu bod modd adnabod cyfranogwr. Fodd bynnag, yn yr achosion hyn, bydd y protocol arferol o fod yn ddienw a chyfrinachedd (fel yr amlinellwyd yn gynharach yn y ddogfen hon) yn berthnasol.
  • Diogelu cyfranogwyr – bydd yr un prosesau ar gyfer cynnal ymchwil ar-lein yn berthnasol i ymchwil a gynhelir all-lein. Bydd materion moesegol fel diogelu rhag niwed, cyfrinachedd a bod yn ddienw, cydsyniad ar sail gwybodaeth (a ddisgrifir mewn manylder nesaf) a thynnu’n ôl o ymchwil ac ati oll yn cael eu trafod cyn dechrau cymryd rhan mewn ymchwil. Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i holi cwestiynau a gofyn am wybodaeth bellach, naill ai trwy amser real (defnyddio negeseua gwib) neu trwy ddarparu manylion cyswllt e-bost yr Uned Ymchwil.
  • Preifatrwydd a chydsyniad ar sail gwybodaeth – pan fo data cynradd(newydd) yn cael ei gasglu gan ddefnyddio dulliau ar-lein, fe geisir cydsyniad ar sail gwybodaeth bob amser. Gallai hyn fod ar ffurf yr ymchwilydd yn e-bostio ffurflen cydsyniad yn uniongyrchol i’r cyfranogwr neu, yn achos arolygon ar-lein, gwneud datganiad agoriadol yn egluro bod yr unigolyn wedi rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth trwy gymryd rhan. Ar gyfer data eilaidd (h.y. data sydd eisoes yn y parth cyhoeddus), fe gymerir camau atodol. Fel yr argymhellwyd gan Sugiura, Wiles a Pope (2017), os defnyddir data o fforymau cyhoeddus, bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy yn cael ei thynnu (e.e. enw proffil; enw ar y safle; unrhyw fanylion personol), ac ni ychwanegir unrhyw URL na hyperddolenni. Cymerir gofal ychwanegol hefyd wrth ddelio gyda sylwadau gair am air, gan ffafrio crynhoi, addasu trefn geiriau neu ddileu geiriau (heb aberthu ystyr). Fel dywed yr awduron, yn aml gall defnyddio dyfyniadau yn union fel y maent yn ymddangos gael eu holrhain yn ôl i’r wefan wreiddiol ‘ac o hynny at yr aelod o’r fforwm a’u gwnaeth’ (2017, t.194). Yma mae’r Uned Ymchwil yn cyfeirio’n uniongyrchol at y canllaw a nodir yn nogfen Ethical Guidelines for Internet-mediated Research Cymdeithas Seicolegol Prydain, sy’n argymell ble mae amwysedd o ran natur gyhoeddus y data, dylai ymchwilwyr ystyried a allai ‘arsylwad nas datgelwyd’ gael effeithiau niweidiol posibl, cyn penderfynu ar ei ddefnyddio neu beidio (BPS, 2017, t.7). Er enghraifft, mewn penderfyniadau’n ymwneud â defnyddio data y gellir ei echdynnu o fforymau ar-lein, ffrydiau cyfryngau cymdeithasol neu unrhyw fforwm cyhoeddus arall.

Ymchwilio o’r tu fewn (ymchwil mewnol)

 Mae Uned Ymchwil KSS CRC mewn sefyllfa unigryw, o ran ei bod wedi ei hariannu gan a’i lleoli o fewn y sefydliad y mae’n cynnal ymchwil ar ei gyfer. Gelwir y math hwn o ymchwil yn ymchwil mewnol.

Mae manteision mawr i ymchwil mewnol (a elwir ar adegau yn ymchwil mewndarddol). Mae’n gwella mynediad at ddata mewn sefyllfa naturiol h.y. pobl, llefydd a systemau. Mae manteision ariannol ac ymarferol, ble gall fod yn rhatach a haws nag ymchwil a gynhelir o’r tu allan. Ac o bosibl y pwysicaf oll, efallai bod gwell siawns o gael effaith ‘byd go iawn’, yn arbennig wrth gynnal ymchwil gweithredu neu wrth ddefnyddio casgliadau ymchwil i fynd i’r afael â goblygiadau ar gyfer polisi ac ymarfer (Trowler, 2011). Fodd bynnag, gall lleoliad o’r fath hefyd beriheriau. Fel y mae Trowler (2011) yn nodi, gall effeithio ar allu’r ymchwilydd i gynhyrchu adroddiad diwylliannol niwtral. Gall wneud ‘gweld’ yn anoddach oherwydd bod arferion cymdeithasol/sefydliadol penodol wedi eu normaleiddio. Efallai y bydd heriau gyda gwrthdaro rôl wrth i’r ymchwilydd weithredu mewn swyddogaethau eraill yn eiwaith. Ac yn olaf, mae mwy o risg gydag ymchwil o’r fath ar gyfer ‘rhagfarn cyfweliad’ – efallai y bydd gan ymatebwyr ddisgwyliadau o flaen llaw o aliniad a dewisiadau’r ymchwilydd mewn ffyrdd a allai ddylanwadu ar eu hymatebion (Trowler, 2011). Felly, mae’r ymrwymiadau moesegol canlynol wedi eu gwreiddio yn ein dull ymchwil:

  • Cynnal annibyniaeth/pellter beirniadol – bydd ymchwil a gynhelir gan yr Uned yn debygol o gynnwys cyfranogiad gan staff KSS CRC. Felly, mae’r Uned wedi ymrwymo i wneud hynny mewn modd nad yw’n cyfaddawdu ar gyfrinachedd neu anhysbysrwydd cyfranogwyr, ac sy’n cael ei gyfathrebu’n glir fel annibynnol ar fuddiannau cyffredinol y sefydliad. Bydd casgliadau ymchwil yn cael eu defnyddio dim ond er mwyn gwelladealltwriaeth, ac nid fel modd i hysbysu rheolwyr o ymarfer staff (da neu ddrwg). Bydd staff sy’n cymryd rhan yn cael eu sicrhau o ran eu hawliau moesegol, ac na fydd eu cyfranogiad yn creu unrhyw risg nac anfantais iddynt (nac yn wir, unrhyw fantais). Yn olaf, er y gall fod angen i staff wirio gyda’u rheolwr llinell am gymryd rhan mewn ymchwil neu y gallent ddatgelu eu cyfranogiad yn ystod goruchwyliaeth, bydd hyn yn ôl dewis yr aelod o staff hwnnw. Hyd yn oed ymysg cydweithwyr, mae’r Uned Ymchwil yn gweithredu o safle moesegol o ddiogelu cyfrinachedd ac anhysbysrwydd.
  • Cywirdeb ymchwil – mae’r Uned Ymchwil, a’r sefydliad yn ehangach, wedi ymrwymo’n llwyr i gynnal ymchwil sydd mor foesegol â phosibl. Felly, ni fydd canlyniadau ymchwil yn cael eu newid, addasu na hepgor os byddant yn cyflwyno sefydliad KSS CRC neu ymarfer cyffredinol mewn gwedd anffafriol. Cyflwynir casgliadau ymchwil yn deg a chyfartal fel y byddent pe byddai’r ymchwil wedi ei gynnal gan sefydliad allanol.
  • Gwrthdaro rôl – gall ymchwil mewnol beri heriau o ran gwrthdaro rôl. Fodd bynnag, yn achos yr Uned Ymchwil, mae’r ymchwilwyr wedi eu cyflogi’n unig yn eu cymhwyster fel ymchwilwyr. Felly, mae’n debygol y bydd materion o ran gwrthdaro rôl yn ddibwys ac yn hawdd eu hosgoi.
  • Rhagfarn cyfweliad/ymchwilydd – bydd cydweithwyr sy’n cymryd rhan mewn ymchwil KSS CRC yn cael eu hysbysu’n llawn ynghylch ymrwymiad yr Uned i ymchwil foesegol. Fe esbonnir yn glir fod ymatebion yn gyfrinachol, y dylid cael rhyddid i gymryd rhan yn agored a heb ofni cosb, ac nad oes unrhyw ofyniad i ymateb mewn ffyrdd penodol (ffafriol).
  • Llywio ymchwil – i sicrhau bod ymchwil a gynhelir gan Uned Ymchwil KSS CRC yn gadarn a moesegol, mae grŵp llywio wedi ei sefydlu i adolygu ymchwil arfaethedig ac i gynghori ar faterionymarferol, moesegol a materion eraill perthnasol[7]. Mae’r grŵp llywio yn cynnwys gweithwyr proffesiynol mewnol ac allanol gyda phrofiad o ymchwil, rheoli prosiectau ac/neu waith prawf a chyfiawnder troseddol. [8]

Materion moesegol eraill

 Diogelwch yr ymchwilydd – er bod diogelwch cyfranogwyr yn allweddol, mae diogelwch ymchwilwyr hefyd yn bryder. Pan fo hynny’n bosibl, cynhelir ymchwil yn swyddfeydd KSS CRC neu mewn lleoliadau trydydd parti e.e. canolfannau cymunedol; canolfannau dydd; llyfrgelloedd; siopau coffi ac ati.[9] Ar gyfer ymchwil a gynhelir yng nghartrefi cyfranogwyr, fe ddefnyddir protocol o ‘wiriadau diogelwch’ ymchwilydd. Yma bydd yr ymchwilydd yn hysbysu aelod arall o’r Uned Ymchwil cyn cael mynd i mewn ac wedi gadael eiddo. Hefyd, bydd yr ymchwilydd yn gadael enw a manylion cyswllt (cyfeiriad/rhif ffôn) y cyfranogwr gyda’r aelod hwnnw o’r Uned, ac yn rhoi amcangyfrif o amser dechrau a diwedd y cyfweliad.

  • Cyfrifoldeb i gydweithwyr – bydd aelodau’r Uned Ymchwil, ac unrhyw ymchwilwyr ac/neu awduron cysylltiedig[10], yn cael eu cydnabod yn briodol am eu cyfraniad yn y broses ymchwil. Bydd hyn trwy gydnabyddiaeth a enwir ar unrhyw gyhoeddiad a gynhyrchir fel rhan o’r gwaith hwnnw.
  • Cyfraniad i’r maes – bydd unrhyw waith a gynhyrchir gan yr Uned Ymchwil yn cael ei gynnal i’r safonau moesegol uchaf, a bydd yn cael ei gynnal gyda chywirdeb a gonestrwydd. Bydd unrhyw gasgliadau yn cael eu hadrodd yn union fel y maent yn ymddangos, gyda chyn lleied o detholusrwydd â phosibl (h.y. ni fydd casgliadau ymchwil yn destun‘dewis a dethol’). Bydd unrhyw gyhoeddiadau sy’n deillio o hyn yn cynnal enw da rhagorol disgyblaeth troseddeg.

 

[1] Yma defnyddir y ‘risg o niwed’ mewn cyd-destun diogelu ac nid cyd-destun gwasanaeth prawfh.y. y risg y gallai cymryd rhan yn ein hymchwil achosi niwed i’r cyfranogwr

[2] Bydd y cymal anhysbysrwydd a chyfrinachedd yn cael ei egluro i gyfranogwyr fel rhan o gael eu cydsyniad ar sail gwybodaeth

[3] Mae hawl i dynnu’n ôl yma yn cyfeirio at dynnu’n ôl o gymryd rhan – trafodir yr hawl i dynnu data’n ôl yn yr adran Rheoli Data yn ddiweddarach.

[4] Bydd yr opsiwn hwn ar gael i’r holl gyfranogwyr ymchwil, ond rhoddir mwy o bwyslais ar hyn ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth er mwyn lliniaru’r anghydbwysedd pŵer atodol sydd ynghlwm gyda’r grŵp mwy bregus yma.

[5] Mae’n bwysig nodi yma bod gan y gwahanol blatfformau cymdeithasol wahanol baramedrau ar gyfer beth a ystyrir i fod yn wybodaeth gyhoeddus, ac felly efallai na fydd disgwyliadau defnyddwyr o breifatrwydd yr hyn y byddant yn ei ddisgwyl.

[6] Y cyfarwyddyd cyfredol ym maes ymchwil yw defnyddio meddalwedd nad yw’n olrhain cyfeiriadau IP. Nid yw hyn yn rhywbeth sydd ar gael yn KSS CRC ar hyn o bryd, fodd bynnag, yn sicr ni fydd yr Uned Ymchwil yn olrhain cyfeiriadau IP unrhyw un sy’n cymryd rhan yn ei hymchwil.

[7] Ar gyfer prosiectau ymchwil mawr yn unig fydd hyn. Bydd prosiectau ymchwil byrrach a samplau DIP yn cael eu cytuno a’u llywio gan yr uwch dîm rheoli (SMT) yn unig.

[8] Er y bydd y grŵp llywio yn cynghori ar faterion ymarferol a moesegol o ran prosiectau ymchwil ar raddfa fwy, yn y pen draw bydd cyfeiriad yr Uned Ymchwil wedi ei hysbysu gan benderfyniadau a wneir gan yr SMT.

[9] Rhaid nodi yma, gall lleoliadau trydydd parti beri nifer o faterion moesegol eraill, gan gynnwys cyfrinachedd ac anhysbysrwydd. Gall cynnal ymchwil, yn arbennig ymchwil a gofnodir yn ddigidol, mewn mannau cyhoeddus ddenu sylw. Mae hyn yn rhywbeth i’w drafod a’i gytuno gyda’r cyfranogwr cyn y cyfarfyddiad ymchwil.

[10] Mae ymchwilwyr/awduron cysylltiedig yn cynnwys unrhyw un tu allan i’r Uned Ymchwil sy’n cyfrannu’n sylweddol i’r broses casglu data neu ysgrifennu.

 

Uned Ymchwil KSS

Chwefror 2019
Sylwer – mae hon yn ddogfen fyw, a bydd yn cael ei hadolygu’n flynyddol. 

 

Cyfeiriadau

Cymdeithas Seicolegol Prydain. (2017). Ethical Guidelines for Internet-mediated Research. Adalwyd o https://www.bps.org.uk/sites/bps.org.uk/files/Policy/Policy%20-%20Files/Ethics%20Guidelines%20for%20Internet-mediated%20Research%20%282017%29.pdf

Cymdeithas Troseddeg Prydain. (2006). Code of Ethics. Adalwyd o http://www.britsoccrim.org/docs/CodeofEthics.pdf

Ymchwil rhyngrwyd cyfryngol. (heb ddyddiad) Adalwyd o https://esrc.ukri.org/funding/guidance-for-applicants/research-ethics/frequently-raised-topics/internet-mediated-research/

Ymchwil gyda phobl a allai fod yn fregus. (heb ddyddiad). Adalwyd o https://esrc.ukri.org/funding/guidance-for-applicants/research-ethics/frequently-raised-topics/research-with-potentially-vulnerable-people/

Sandberg, S. a Copes, H. (2012). Speaking with Ethnographers: The challenges of researching drug dealers and offenders. Journal of Drug Issues, 43(2), 176-197.

 Sugiura, L., Wiles, R. a Pope, C. (2017). Ethical challenges in online research: Public/private perceptions. Research Ethics, 13(3-4), 184-199.

Trowler, P. (2011). Researching your own institution, adnodd ar-lein Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain. Adalwyd o https://www.bera.ac.uk/wp-content/uploads/2014/03/Researching-your-own-institution-Higher-Education.pdf?noredirect=1