Wales > Newyddion a mewnwelediadau > Ymchwil > SPoC yn y doc: a yw’n bryd i ni drawsgludo staff CRC i’r llys?

SPoC yn y doc: a yw’n bryd i ni drawsgludo staff CRC i’r llys?

David Coley, Uned Ymchwil KSS CRC – cyhoeddwyd gyntaf yn Probation Quarterly Rhifyn 11

Efallai bod Trawsnewid Adsefydliad yn dal i ymddangos i lawer o staff prawf i fod yn debyg i lywio drwy fydysawdnewydd. Gall hyn fod yn arbennig o wir yn amgylchedd y llys gan nad oes gan staff y Cwmni Adsefydlu Cymunedol (CRC) hawl i gynulleidfa ac mae unrhyw un pwynt cyswllt (SPoC) yn y llys bellach yn un o’u cyn gydweithwyr asiantaeth. Teimla rhai bod hon yn system a gafodd ei thrawsgludo o blaned arall a’i bod yn estron i gyfathrebu arfer gorau, gan ddadlau mai’r canlyniad yw colli hyder sylweddol mewn gorfodi gorchmynion cymunedol. Felly, a ddylai menter newydd gynnwys gosod staff CRC ar ffurf SPoC yn y llys, i fentro mynd ble nad oes fawr ddim staff CRC wedi bod o’r blaen?

Yn ystod haf 2018, bu CRC Caint Surrey Sussex a’i gydweithwyr NPS ardal cyfatebol yn cymryd rhan mewn cyfres o bum gweithdy ar y cyd i archwilio’r materion o weithio rhyngasiantaethol parthed gwella arfer y llys a gwarediadau llys perthynol. Roedd hyn yn cynnwys myfyrio ar y lleihad sylweddol yn y nifer y gorchmynion cymunedol a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf a diffyg hyder ymddangosiadol ymysg Ynadon o ran gwasanaethau prawf (Crest, 2017; CJI, 2017, 2018).

Roedd adroddiadau HMIP (2017a; 2017b) eisoes wedi amlygu heriau i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’u gwasanaethau prawf o ran gorfodi a materion tor-amodau, Gofynion Gweithgareddau Adsefydlu (RARs), anawsterau TG a diffyg cyffredinol o gyfathrebu rhyngasiantaethol, gyda rhaglenni achrededig yn ymddangos i ‘wywo ar y gwinwydd’ (HMIP, 2017a). Yn ogystal, o fewn y gweithdai ar y cyd daeth materion arfer gorau ehangach o faes ymyriadau gan ddarparwyr gwasanaeth prawf i’r trafodaethau rhyngasiantaethol wrth i swyddogion prawf CRC, staff gweinyddol, staff rhaglenni, SPO a goruchwylwyr CP, ynghyd â staff llys NPS, drafod yn frwd realiti dyddiol eu bywydau gwaith perthnasol.

O fewn trafodaethau gweithdai, roedd themâu cyffredinol yn codi’n naturiol oedd yn amlygu maint yr heriau a wynebir. Mae’r rhaniad Trawsnewid Adsefydlu (TR) a’r tirlun wedi TR yn arwain y ffordd o ran anawsterau strwythurol sylfaenol, ynghyd â thoriadau i gyllid dros nifer o flynyddoedd. Yn dilyn yn agos oedd anawsterau a nodwyd gan gyfranogwyr o ran diffyg staff mewn rhai meysydd, llwyth gwaith uchel a rhedeg i gadw’n gyfoes gyda disgwyliadau ‘cyfiawnder cyflym’. Pan mae’r heriau hyn wedi eu halinio i ffactorau dylanwadol atodol fel Deddf Adsefydlu Troseddwyr 2014, Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, llai o geisiadau am Adroddiadau Darparu Safonol (SDR) gan ddedfrydwyr, a lleihad mewn hyfforddiant i ynadon yn y blynyddoedd diwethaf(Crest, 2017), daw’r darlun yn fwy cymhleth a chynnil. Heb os mae’r rhain yn faterion sydd wedi dylanwadu ar ymarfer a deilliannau’r gwasanaeth prawf yn ystod y blynyddoedd blaenorol, er yn faterion sydd wedi codi ers 2010-11 ac felly’n digwydd naill ai ochr yn ochr gydag, neu yn dilyn, cychwyn y dirywiad mewn gwarediadau cymunedol. Yn gyfatebol, nid yw materion meithrin hyder mewn dedfrydau cymunedol wrth gwrs yn beth newydd(Allen, 2008) ac felly mae’n rhaid eu gosod o fewn cyd-destun ehangach i raddau.

Felly, pa themâu gweithdai a ddaeth i’w amlwg o safbwyntiau staff llinellflaen, gan dimau’r CRC ac NPS y llysoedd? Yn bwysicach, pa arloesi a ddaeth i’r amlwg i fynd i’r afael â’r anawsterau gyda’r bwriad o geisio canfod datrysiadau posibl? Yn gyntaf ac yn bennaf, roedd cydweithwyr CRC ac NPS yn cydnabod bod y farnwriaeth yn dehongli ‘prawf’ i fod yn un uned benodol, nid dwy asiantaeth wahanol. Felly, mae hyn yn darparu ysgogiad i weithredu mewn modd unedig a chydlynol.

Yn ogystal, fel y nodwyd yn y gweithdai, ‘mae’n dda siarad’ ac fe nododd cydweithwyr ragor o gyfleoedd dysgu a datblygu cyfunol i fod yn bwysig, gan gynnwys mwy o gysgodi ac arsylwi traws-asiantaethol ar gyfer rolau rhanddeiliaid eraill, rhannu digwyddiadau a gweithdai hyfforddi, a chynhadledd arfer gorau llysoedd amlasiantaethol blynyddol. Roedd y gweithdai’n glir bod yn rhaid i staff rhaglen fynychu digwyddiadau o’r fath. Byddai digwyddiadau datblygu yn annog gwelliant o ran strwythur adroddiadau llys CRC gyda’r bwriad o hybu sgiliau staff o ran dadansoddirisg, disgrifio cynnydd mewn gorchmynion llys a deall gwarediadau priodol. Mae hyn yn rhannol yn ymgais i gynnal lefelau hyder ysgrifennu adroddiadau ymysg staff CRC nad ydynt yn ymarfer yn rheolaidd bellach mewn lleoliad llys. Byddai digwyddiadau cyfunol yn mynd i’r afael â’r camddealltwriaeth o ran cynnwys RAR ac amserlenni a chwblhad rhaglenni achrededig, gyda’r bwriad y bydd disgwyliadau pob asiantaeth yn fwy realistig ynghylch y realiti o orfodi a chwblhau gorchmynion cymunedol.

Y llys yn galw SPoC

Roedd mwy o bresenoldeb gan CRC yn y llys wedi dod i’r amlwg fel thema ganolog o fewn gweithdai ar draws y rhanbarth. Trafodwyd hawliau’r CRC i gynulleidfa yn y llys yn helaeth ac er y cydnabuwyd diffyg llais CRC yn y llys, diffiniodd cyfranogwyr y gweithdy’r angen am broffil cynyddol i CRC yn y llys, yn bennaf fel modd i wella cyfathrebu rhwng pob asiantaeth ac i feithrin mwy o hyder. Mae mesurau sydd ar gael i staff CRC ar hyn o bryd yn cynnwys gweithio’n agos gyda staff llys NPS trwy fwy o bresenoldeb mewn gwrandawiadau llys. Gallai hyn fod trwy gynnydd ym mhresenoldeb staff mewn adolygiadau cynnydd ar orchmynion cymunedol ac/neu bresenoldeb personol mewn gwrandawiadau tor-amodau.

Fodd bynnag, thema amlwg i godi o’r gweithdai oedd gosod SPoC CRC yn y llys, neu o bosibl mewn swyddfa CRC gerllaw. Awgrymwyd SPoC canolog ar gyfer gwaith grŵp fel dewis amgen hefyd. Byddai rôl o’r fath yn golygu sianelu a ffocysu llif gwybodaeth yn uniongyrchol rhwng asiantaethau. Byddai enghreifftiau o dasgau SPoC yn cynnwys darparu adroddiadau cynnydd i gydweithwyr NPS (neu’n uniongyrchol i’r Fainc/Barnwr os y’i gelwir i’r llys gan staff NPS); rheoli gwybodaeth am dor-amodau; casglu deunydd CPS gan y llys; siarad yn uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth sy’n ymddangos yn y llys i egluro manylion disgwyliadau a gofynion y ddedfryd; darparu apwyntiadau cychwynnol ar unwaith; trosglwyddo canlyniadau dedfrydu; hyrwyddo argaeledd rhaglen gyda defnydd amserol a phriodol; a chysylltu’n uniongyrchol gydag asiantaethau sector gwirfoddol yn y llys. Yn y pen draw, mae’r rôl hon yn cwmpasu meithrin ymddiriedaeth a hyder ar gychwyn cyntaf ymwneud y CRC yn y broses gorchmynion cymunedol a’r daith ymataliad unigol. Rhaid tybio y byddai’r rôl angen osgoi cynnal unrhyw fath o asesiad proffesiynol o risgiau ac anghenion defnyddwyr gwasanaeth neu o ddarparu’r llysoedd gyda chynigion proffesiynol neu argymhellion, oherwydd gwrthdaro buddiannau posibl. Er hynny, roedd nifer o gyfranogwyr y gweithdy yn teimlo bod y syniad yn ffordd amlwg ymlaen i hybu cyfathrebu rhwng holl chwaraewyr y llys ac i gyflenwi gwybodaeth mewn modd mwy uniongyrchol. Fel y nododd rhai o gyfranogwyr y CRC yn y gweithdy, ‘Mae’n gwneud synnwyr llwyr’!

Wrth gwrs, dylid nodi y byddai angen ymgynghori gydag Ynadon a Barnwyr, yr NPS, CPS, asiantaethau gwirfoddol a phob chwaraewr arall yn y llys ar y posibilrwydd hwn o fewn rhanbarth KSS. Rhaid ystyried agweddau’r cyhoedd hefyd, yn ogystal â’r mater o Ynadon yn tueddu i ffafrio gwarediadau cymunedol cyn carchariadau tymor byr (Allen, 2008). Yn ogystal, awgrymir y byddai angen mwy o drafodaeth, ymgynghoriad ac archwiliad ymchwil byr ar gyfer yr opsiwn yma cyn gorfod byw gyda chanlyniadau negyddol posibl ymroi i antur newydd ar gyflymder eithafol. Hefyd, fel y mae Gwen Robinson yn ein hatgoffa, mae angen hyfforddiant staff parhaus ar gyfer yr NPS a CRC os ydym am wneud mwy na dim ond ‘rhoi gorchudd dros y diffygion’ (Robinson, 2018). Yn ogystal, byddai angen i’r CRC roi ystyriaeth drylwyr i oblygiadau ariannol ac agweddau penodol rôl SPoC. Fodd bynnag, mae proffil CRC cynyddol yn y llys yn cael ei ystyried gan nifer o staff CRC KSS yn fenter angenrheidiol ac amserol.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cydnabod dichonoldeb ar gyfer rôl o’r fath yn ei bapur ymgynghori, Strengthening probation, building confidence (Gorffennaf 2018) ac yn ymateb Cymdeithas yr Ynadon cydnabyddir posibilrwydd archwiliad petrus rôl o’r fath (MA, 2018). Mae papur ymgynghori’r Weinyddiaeth a Chymdeithas yr Ynadon yn dyfynnu’r enghraifft bresennol o CRC Durham Tees Valley yn cael ei gyd-leoli gyda’r timau llys NPS lleol trwy aelod o staff ymroddedig. Mae’r rôl hon wedi ei chynllunio i hysbysu adroddiadau cyn dedfrydu yn well ar yr ymyriadau sydd ar gael a’r gwasanaethau a ddarperir gan y CRC.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cydnabod bod deddfwriaeth bresennol yn atal staff CRC rhag cyflenwi cyngor i’r llysoedd a bod y diffyg cyswllt uniongyrchol rhwng CRC ac Ynadon yn creu rhwystrau i feithrin hyder y llysoedd o ran darparwyr gwasanaeth prawf. Felly hefyd, mae ail-sefydliad y Fforwm Dedfrydwyr a Phrawf Cenedlaethol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi digwydd er mwyn i CRC, CPS, staff y llys, erlynyddion ac eraill allu cyfathrebu’n well a thrafod heriau cyfredol a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Mae Cyfarwyddyd Prawf Cyswllt Lleol, sydd â’r nod o sicrhau bod CRC yn cyfranogi mewn trafodaethau lleol gyda llysoedd ynghylch y gwasanaethau maent yn eu cynnig, wedi ei gyhoeddi. Yn ogystal, cred y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd hyn yn hybu cwmpas cyffredinol Arolwg Dedfrydwyr a Bwletin Dedfrydwyr yr NPS.

Camu’n eofn

Felly a yw’r syniad o staff prawf CRC yn cyfathrebu’n uniongyrchol o fewn lleoliad y llys yn swnio fel taith o ganfyddiad neu raglen ffuglen wyddonol? Yn sicr roedd gweithdai ar y cyd KSS CRC – NPS yn trafod dulliau arfer gorau cilyddol yn y llys a thu hwnt mewn modd creadigol, gan gynnwys ymddangosiad SPoC CRC yn y llys. Yn ogystal, ystyrir digwyddiadau datblygu ar y cyd i fod yn ffordd well ymlaen i fynd i’r afael â’r holl heriau yn y system bresennol.
Roedd hyn yn arbennig o wir ar gyfer cyfathrebu anawsterau RAR, cwblhau rhaglenni achrededig, gorfodi a materion adrodd i’r llysoedd y CRC. Felly, os yw rôl gyfathrebu a chydlynu benodol ar gyfer staff CRC o fewn y llysoedd yn cael ei hystyried i fod yn gennad amlwg ar gyfer y dyfodol mewn gweithdai ymarferwyr prawf, ai dyma’r adeg i ddechrau trawsgludo SPoC CRC i’r llys?

Cyfeiriadau

Allen, R (2008) ‘Changing attitudes to crime and punishment: Building confidence in community penalties’ Probation Journal, Rhifyn 55(4), 389-400.

CCJS (2011) Community Sentences: a solution to penal excess? Centre for Crime and Justice Studies, Llundain, Lloegr.

CJI (2017) Community sentences across borders, Centre for Justice Innovation, Llundain, Lloegr.

CJI (2018) Renewing Trust: how can we improve the relationship between probation and the courts? Centre for Justice Innovation, Llundain, Lloegr.

Crest (2017) Where did it all go wrong? A study into the use of community sentences in England and Wales, Crest Advisory, Llundain, Lloegr.

Crest (2018) Rewiring Justice: Transforming punishment and rehabilitation for the 21st Century, Crest Advisory, Llundain, Lloegr.

HMIP (2017a) The work of probation services in courts: an inspection by HM Inspectorate of Probation, Mehefin 2017. Manceinion, Lloegr.

Cymdeithas yr Ynadon (2018) Response to Strengthening probation, building confidence, Cymdeithas yr Ynadon, Medi 2018.

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2018) Strengthening probation, building confidence. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gorffennaf 2018. Llundain, Lloegr.

Robinson, G (2018) Transforming probation services in Magisrates’ courts’, Probation Journal, Rhifyn 65(3), 316-334.