Wales > Newyddion a mewnwelediadau > Ymchwil > Cyfrifoldeb y gwasanaeth prawf o ran eithafiaeth adain dde

Cyfrifoldeb y gwasanaeth prawf o ran eithafiaeth adain dde

Erthygl gan Kerry Devitt, Ymchwilydd Ymarfer Prawf, Kent, Surrey and Sussex Community and Rehabilitation Company.

Nid yw’r bygythiad cynyddol o eithafiaeth adain dde yn bwynt y byddai llawer yn dadlau yn ei erbyn ar hyn o bryd. Dim ond yn ystod y mis diwethaf, fe welodd y byd erchyllterau Ymosodiad Mosg Christchurch, a arweiniodd at y saethu torfol mwyaf angheuol yn hanes Seland Newydd. Ac yn yr Unol Daleithiau, adroddwyd bod terfysgaeth adain dde yn cyfrif am dair gwaith yn fwy nag unrhyw weithgaredd terfysgol arall, a hefyd, bron i bob achos o derfysgaeth yn yr Unol Daleithiau yn 2018 (Anti-Defamation League, 2019).

Yn y Deyrnas Unedig, rydym hefyd wedi gweld yr effaith. Yn 2016, llofruddwyd yr AS Llafur Jo Cox ac yn y flwyddyn ddilynol yr ymosodiad ym Mosg Finsbury Park – y ddau wedi eu cyflawni gan unigolion wedi eu dylanwadu’n uniongyrchol gan ac yn gweithredu ar ideoleg grwpiau adain dde eithafol. Hefyd, dengys ystadegau diweddar yn archwilio gweithrediad pwerau’r heddlu dan Ddeddf Terfysgaeth 2000 (Swyddfa Gartref, 2018a), ac atgyfeiriadau Prevent (Mae Prevent yn rhan o strategaeth gwrthderfysgaeth y Deyrnas Unedig. Dyma’r edefyn sy’n canolbwyntio ar bobl yn cael eu radicaleiddio neu’n cefnogi terfysgaeth) a data cefnogol ar gyfer 2017/2018 (Swyddfa Gartref, 2018b) duedd am i fyny amlwg ar gyfer eithafiaeth adain dde (ac mewn cyferbyniad, tuedd am i lawr ar gyfer eithafiaeth Islamaidd). Mae’r tuedd wedi cynnwys cynnydd yn y rhai sydd yn y carchar am droseddau eithafol adain dde (Swyddfa Gartref, 2018a), cynnydd mewn atgyfeiriadau Prevent yn gysylltiedig i bryderon ynghylch eithafiaeth adain dde (Swyddfa Gartref, 2018b), ac yn fwyaf arwyddocaol, cynnydd yn y bobl sy’n derbyn cefnogaeth gan Channel ( rhaglen ble mae’r heddlu’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus i nodi’r rhai sy’n cael eu denu i derfysgaeth i asesu eu risg, ac i ddatblygu rhaglen o gefnogaeth wedi ei theilwra ar eu cyfer) ar gyfer pryderon yn ymwneud ag eithafiaeth adain dde (Swyddfa Gartref, 2018b). Fel mae’r Swyddfa Gartref ei hun yn nodi, dyma’r tro cyntaf i nifer tebyg o unigolion dderbyn cefnogaeth ar gyfer pryderon yn ymwneud ag eithafiaeth Islamaidd ac adain dde (Swyddfa Gartref, 2018b, t.13). Gyda throseddau casineb crefyddol a hiliol hefyd ar gynnydd (Dodd a Marsh, 2019; Swyddfa Gartref, 2018c), mae gweithgaredd yr adain dde eithafol yn prysur ddod yn realiti na allwn ei anwybyddu mwyach. Felly, beth yw cyfrifoldeb y gwasanaeth prawf?

Ymarfer prawf: Dyletswydd Prevent ac ‘adnabod yr arwyddion’

Mae gan y gwasanaethau prawf (y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a’r Cwmnïau Adsefydlu Cymunedol dan berchnogaeth breifat), ynghyd â gwasanaethau statudol a chymunedol eraill, gyfrifoldeb i atal y bygythiad o derfysgaeth. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu dilyn strategaeth Prevent y Llywodraeth, cyfres o ganllawiau a gynlluniwyd i leihau’r bygythiad o derfysgaeth yn y Deyrnas Unedig trwy ‘atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth’ (Swyddfa Gartref, 2015, t.2). Fel rhan o hyn, mae awdurdodau lleol yn darparu canllaw penodol ar ‘adnabod yr arwyddion’ o fregusrwydd posibl i radicaleiddio (e.e. ynysiad cymdeithasol, defnyddio iaith ‘ni a nhw’, cyfiawnhau trais i dalu’r pwyth yn ôl oherwydd teimlad o achwyniad ac anghyfiawnder, a mynegi angen am ystyr a pherthyn ac ati.).  Fodd bynnag, mae Prevent wedi ei feirniadu’n eang am ei ffocws gormodol clir ar eithafiaeth Islamaidd, a thrwy hynny’r gymuned Fwslimaidd (Cohen a Tufail, 2017, t.41; Qurashi, 2016). Er wedi ei gyflwyno fel rhywbeth sydd yr un mor berthnasol i bob ffurf o eithafiaeth, mae beirniaid wedi dadlau ei fod wedi targedu aelodau’r gymuned Fwslimaidd yn anghymesur (Cohen a Tufail, 2017, t.41; Grierson, 2019). Effaith hyn oll, ynghyd â llif o sylw yn y wasg ynghylch eithafiaeth Islamaidd, yw dealltwriaeth gyfyngedig, ac eithaf rhagfarnllyd, o fewn cymdeithas Prydain ynghylch sut mae terfysgwr yn ‘edrych’ (Ellis Devitt, 2018). Felly mae’n bwysig ystyried goblygiadau posibl hyn o ran ymarferwyr cyfiawnder troseddol.

Yr anhawster i staff prawf yw adnabod radicaleiddio posibl. Er bod gwybodaeth a hyfforddiant ar gyfer ‘adnabod yr arwyddion’ yn arfer safonol i staff llinell flaen, a yw hynny’n ddigon? Rhybuddia Lynch (2017, t.88) am y perygl o ymarferwyr yn canolbwyntio ar lwybrau unigol i eithafiaeth. Dadleua Lynch na allwn gysylltu un ffactor ynysig i’r ymddygiad ei hun yn ddidaro. Gallai methu ystyried amrywiaeth y llwybrau posibl roi teimlad ffug o ddiogelwch yng ngallu rhywun i nodi unigolion risg uchel a gallai hefyd waethygu’r risg o gyhuddiadau ffug (ibid, t.89).  Mae Broomfield (2018) hefyd, wrth ystyried cymhlethdodau diffinio ac ymateb i bobl a allai fod wedi eu radicaleiddio o fewn y gwasanaeth prawf, yn myfyrio ar i ba raddau y gallai rhagfarnau ymhlyg gael ei gario drosodd i ymarfer. Fel y noda:

“Os ydym fel ymarferwyr ond yn bodloni ein hunain fod radicaleiddio yn broblem ymysg defnyddwyr gwasanaeth o ffydd benodol, neu’n deillio o rannau penodol o’r byd, gallai’r canlyniadau fod yn niweidiol. Gallai safbwynt cychwynnol o’r fath arwain at gred mai dim ond nifer fechan o fath penodol o berson o fewn ein poblogaeth o ddefnyddwyr gwasanaeth sydd dan risg o radicaleiddio…gallai hyn gyfrannu i gred nad oes gennym lawer i’w wneud o ran archwilio sut yrdym yn asesu, ymateb i a herio unigolion sydd wedi eu radicaleiddio.” – Broomfield, 2018, t.108

Yn wir, wrth wneud tybiaethau ynghylch sut all pobl benodol gael eu radicaleiddio, neu fod â thybiaethau penodol ynghylch sut mae terfysgwr posibl yn ‘edrych’, a ydyn ni’n torri ffon i guro ein hunain, neu waeth: ffon i guro eraill.

Ar gyfer y gwasanaeth prawf, a phob gweithiwr proffesiynol arall yn y dyfodol sy’n gyfrifol am gynnal dyletswydd Prevent, yr hyn sy’n teimlo’n allweddol ar hyn o bryd yw’r angen i ail-archwilio ein credoau a’n rhagfarnau mewnol. Yn hytrach na symud yn ddiamheuol tua’r dyfodol, gyda naratifau agos sydd wedi eu hen sefydlu a’r syniad o’r ‘terfysgwr cyffredin’ a’i resymau/rhesymau dros ‘radicaleiddio’, mae angen i ni weithio’n fwy agored ac adweithiol, ac ailedrych yn gyson (ac adolygu, os oes angen) ar y credoau sy’n hysbysu ein hymarfer. Trwy wneud hynny efallai y bydd y gwasanaeth prawf mewn safle llawer cryfach i asesu sut mae terfysgaeth, eithafiaeth a’r risg o radicaleiddio yn ‘edrych’ mewn gwirionedd yn 2019.