Wales > Newyddion a mewnwelediadau > Ymchwil > Twf y terfysgwr adain dde eithafol: Ail-gysyniadoli risg mewn ymarfer prawf

Twf y terfysgwr adain dde eithafol: Ail-gysyniadoli risg mewn ymarfer prawf

Kerry Ellis Devitt, Uned Ymchwil KSS CRC – cyhoeddwyd gyntaf yn Probation Quarterly Rhifyn 10

Mae uned ymchwil newydd yn CRC Caint, Surrey a Sussex ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn ymchwil i archwilio nodweddion Prevent. Kerry Ellis Devitt, Ymchwilydd Ymarfer Prawf, sy’n gosod y cyd-destun ac yn ystyried y goblygiadau ar gyfer gwaith prawf.

Mae gan y gwasanaeth prawf gryn dipyn o gyfrifoldeb o ran rheoli a diogelu bywydau pobl. Conglfaen y gwasanaeth yr ei gyfrifiadau risg. Beth yw risg unigolyn o aildroseddu? Beth yw’r risg y bydd yr unigolyn yn cael euogfarn arall? Ac i ba raddau mae’r unigolyn yma’n peri risg o niwed i’r cyhoedd? (Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, 2009). Er bod y risg yma o niwed yn canolbwyntio’n bennaf ar y bygythiad i gymdeithas mewn modd unigol braidd, yn gysylltiedig i batrymau troseddu penodol (h.y. y risg o niwed i berson penodol; risg o niwed i fusnes ac ati), rhaid i’r gwasanaeth a’i staff llinell flaen hefyd fod yn ymwybodol o risg unigolyn o niwed mwy eang a dinistriol – sef yr hyn a gynrychiolir gan fygythiad terfysgaeth. Ond ble mae’r gwasanaeth prawf yn rhoi ei sylw pan ddaw i nodi risg o’r fath?

 

Ymarfer y gwasanaeth prawf a’r cyfrifoldeb i Prevent

Ynghyd â darparwyr addysg, arweinwyr ffydd, gweithwyr iechyd a staff gofal cymdeithasol, mae’r gwasanaeth prawf wedi derbyn cyfrifoldeb i atal y bygythiad terfysgaeth. Daw’r cyfrifoldeb yma ar ffurf ymlyniad i Prevent, yr elfen o strategaeth gwrthderfysgaeth y Deyrnas Unedig sy’n canolbwyntio ar ‘ddiogelu a chefnogi pobl fregus i’w hatal rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth’ (Swyddfa Gartref, 2018a, para. 99). Yn ymarferol, mae Prevent, a gyflwynwyd fel dyletswydd statudol trwy Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015, yn gofyn i’r gymuned ehangach weithredu i nodi’r rhai a dybir i fod mewn perygl o gael euradicaleiddio.

Mae gweithrediad Prevent wedi cynnwys hyfforddiant eang ar draws amrywiol sectorau cymunedol. O fewn hyn, mae astudiaethau achos yn cael eu defnyddio sy’n darlunio radicaleiddio Islamaidd a radicaleiddio adain dde eithafol oherwydd, fel y mae’r llenyddiaeth yn datgelu i ni, ‘nid oes un proffil demograffig cymdeithasol unigol o derfysgwr yn y Deyrnas Unedig’ (Swyddfa Gartref, 2018a, para. 103). Fodd bynnag, er mai dyna’r doethineb, beth yw’r realiti?

Problem rhagfarn

Yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf, mae terfysgaeth yn y Deyrnas Unedig wedi ei osod yn gadarn ymhlith rhengoedd eithafiaeth Islamaidd. Mae’r bygythiad wedi ei gadarnhau’n annileadwy fel ‘arall’, yn deillio o bobl a grwpiau tu allan i ffiniau Prydain. Tra bod nifer o ymosodwyr mewn blynyddoedd diweddar wedi eu canfod i fod yn ddinasyddion y gwledydd maent wedi eu targedu (er enghraifft, Salman Ramadan Abedi, a oedd yn gyfrifol am fomiau Manceinion, a Khalid Masood, a oedd yn gyfrifol am ymosodiadau San Steffan), mae eu cysylltiadau i sefydliadau terfysgol rhyngwladol wedi sicrhau eu lle fel ‘rhai o’r tu allan’.

Ar yr un pryd, mae wyneb terfysgaeth wedi mynd trwy nifer o naratifau rhagnodol. Ers ymosodiadau 9/11 mae cymdeithas y gorllewin wedi dod i weld y bygythiad terfysgaeth fel rhywbeth mewn demograffig benodol. Gyda dim mwy na chwiliad syml am ddelweddau ar Google, er enghraifft, ceir detholiad o ddelweddau o ddynion gyda barfau a chroen brown, wedi eu harfogi ac yn gwisgo dillad rhyfela, fel arfer mewn lleoliad sy’n bell iawn o unrhyw beth mae’r mwyafrif ohonom sydd wedi ein geni a’n magu yn y Deyrnas Unedig wedi ei brofi neu’nddeall. Ac i gyd-fynd â’r ysgogiad gweledol hwn o sut ‘olwg’ sydd ar derfysgwr, fe werthir peryglon safbwynt ideolegol penodol i ni – un sy’n glynu at bolisïau atchweliadol ar sut ddylid byw bywydau ac sydd wedi ei ategu gan bropaganda yn erbyn y gorllewin.

Y broblem yn hyn oll yw drwy gydweddu ein hunain mor agos i’r syniad hwn, nid ydym yn sylwi beth sy’n digwydd yn rhywle arall.

 

Troseddau casineb a thwf yr adain dde eithafol

Mae’r gefnogaeth gynyddol ar gyfer gwleidyddiaeth adain dde eithafol wedi ei nodi fel tuedd bryderus yn y Deyrnas Unedig a gwledydd Ewropeaidd eraill (Aisch, Pearce a Rousseau, 2017; Chakelian, 2017). Ynghyd â hyn, rydym wedi gweld cynnydd ymddangosiadol mewn trais cysylltiedig i gasineb.

Ym mis Hydref, rhyddhaodd y Swyddfa Gartref ei hystadegau troseddau casineb blynyddol. Er yr adroddwyd bod achosion o droseddau casineb wedi mwy na dyblu ers 2012/2013, yn arbennig ar gyfer troseddau casineb crefyddol, roedd hyn wedi ei briodoli’n bennaf i ‘welliannau mewn cofnodi troseddau’ (Swyddfa Gartref, 2018b:7). Fodd bynnag, beth nad oedd yn bosibl ei briodoli i wella ymarfer oedd y cyswllt rhwng hyn a digwyddiadau cymdeithasol a gwleidyddol penodol. Yn wir, nododd yr adroddiad uchafbwyntiau mewn digwyddiadau troseddau casineb yn dilyn llofruddiaeth Lee Rigby yn 2013, ymosodiad Charlie Hebdo yn 2015, a hyd yn oed yn fwy wedi Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ac ymosodiadau terfysgol 2017. Hefyd, dangosodd data yn ymwneud â 2017/2018 mai’r bobl oedd fwyaf tebygol o fod yn ddioddefwyr oedd pobl gyda chefndir Asiaidd/Mwslimaidd. Yn 2017/2018, profodd 0.6% o bobl a oedd yn uniaethu fel Mwslimiaid droseddau casineb o gymharu â 0.1% o bobl a oedd yn uniaethu fel Cristnogion, a 0.4% o’r rheini o gefndir Asiaidd, o gymharu â 0.1% o’r rhai o gefndir gwyn (Swyddfa Gartref, 2018b).

Yn ychwanegol at hyn, mae’r Deyrnas Unedig hefyd wedi gweld sawl achos o derfysgaeth yn gysylltiedig â’r adain dde eithafol. Yn 2016 gwelwyd llofruddiaeth Jo Cox gan Thomas Mair. Yn 2017 gyrrodd Darren Osbourne fan i ganol addolwyr Mwslimaidd yn Finsbury Park. Ac ym mis Chwefror 2018 cafodd Ethan Stables ei arestio am gynllunio ymosodiad mewn digwyddiad LGBT yn Cumbria. Roedd y tri yn wyn Prydeinig a gwelwyd eu bod wedi eu dylanwadu’n uniongyrchol gan syniadaeth grwpiau adain dde fel y Ffrynt Cenedlaethol, English Defence League a Britain First.

 

Newid gwedd terfysgaeth

Ym misMedi, datgelodd data a ddelir gan y Swyddfa Gartref, am y tro cyntaf ers 2001, bod pobl gyda gwedd ethnig gwyn wedi pasio pobl gyda gwedd ethnig Asiaidd o ran nifer a arestiwyd am weithgaredd cysylltiedig â therfysgaeth (Swyddfa Gartref, 2018c). O’r arestiadau hyn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2018, roedd 67% (234 achos) ar gyfer terfysgaeth ryngwladol a 21% (75 o achosion) ar gyfer domestig[1]. Mae hyn yn nodi cwymp o 34% o’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y cyntaf a chynnydd o 23% ar gyfer yr ail.

A beth am ddylanwad ideolegol? Gan ddefnyddio’r un set o ddata, dangosodd ffigurau ar gyfer 2018 bod 178 o’r rhai yn y ddalfa am droseddau terfysgol yn uniaethu gydag ideoleg eithafol Islamaidd, o gymharu â 28 oedd yn uniaethu gydag ideoleg adain dde eithafol, a 12 fel ideoleg ‘Arall’. Er bod y pendil yn dal i wyro’n drwm tuag at eithafiaeth Islamaidd, mae’n bwysig ystyried y ffigurau hyn yn eu cyd-destun. Fel y dengys Ffigur 1, gwelwyd twf nodedig yn y gyfran o rai yn y carchar am droseddau terfysgol oherwydd daliadau adain dde eithafol yn 2018, tra bod y rhai yn y carchar oherwydd eithafiaeth Islamaidd wedi gweld lleihad cymharol. Yn wir, yn 2016 roedd eithafiaeth Islamaidd i gyfrif am 94% o’r holl weithgareddau yn ymwneud â therfysgaeth. Yn 2017 gostyngodd y ffigur hwnnw i 90.7% ac ar ddiwedd mis Mehefin 2018 roedd y ffigur yn 81.6%.

 

[1] Mae terfysgaeth ryngwladol yn cyfeirio at weithgaredd terfysgol gan unigolyn neu grŵp (waeth beth yw eucenedligrwydd) sy’n gysylltiedig i neu wedi ei ysgogi gan grwpiau terfysgol tu allan i’r Deyrnas Unedig. Mae terfysgaeth ddomestig yn cyfeirio ar weithgaredd terfysgol heb unrhyw gysylltiadau i Ogledd Iwerddon na therfysgaeth ryngwladol.

 

Ffigur 1: Nifer o bobl yn y ddalfa am droseddau cysylltiedig â therfysgaeth, yn ôl ideoleg, 31 Mehefin 2013 hyd 31 Mehefin 2018

Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref. (2018c). Operation of police powers under the Terrorism Act 2000 and subsequent legislation: Arrests, outcomes, and stop and search, Great Britain, quarterly update to June 2018 (Bwletin Ystadegol 19/18).

 

Ac yn olaf, rhyw. Er bod yr achosion o fenywod yn gysylltiedig â therfysgaeth wedi codi’n nodedig dros y ddegawd ddiwethaf (4.6% o bob arestiad yn 2008 o gymharu â 11.4% yn 2018), mae’r mwyafrif helaeth o droseddau o’r fath, fel gyda throseddau difrifol eraill, yn dal i gael eu cyflawni gan ddynion.

Yn 2018, roedd menywod yn gyfrifol am ddim ond 5.4% o’r holl unigolion a gyhuddwyd o weithgaredd cysylltiedig â therfysgaeth a 4.3% o’r rhai a gollfarnwyd (Swyddfa Gartref, 2018c).

 

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y gwasanaeth prawf?

Mae tueddiadau fel y rhain yn dangos yn glir bod angen dechrau ail-ffurfweddu pryd a gwedd risg. Er bod y data yn dal i gefnogi’r proffil o’r dyn Asiaidd, sy’n gynigydd eithafiaeth Islamaidd ac yn fwyaf tebygol o fod yn gysylltiedig i grwpiau terfysgol rhyngwladol, rydym hefyd yn edrych ar ddyn gwyn, sy’n gynigydd eithafiaeth adain ddeeithafol, ac sy’n gysylltiedig i grwpiau terfysgol domestig.

Ni ddylid dehongli Prevent i fod yn offeryn i atal eithafiaeth Islamaidd. Strategaeth ydyw sydd wedi ei datblygu i atal pob math o radicaleiddio. Mae’r ddealltwriaeth hon o bwys allweddol ac, ar gyfer y gwasanaethprawf, golyga hyn sicrhau bod ei staff llinell flaen nid yn unig wedi cael hyfforddiant ar brotocol Prevent, ond hefyd yn ymwybodol, ac yn gweithio yn erbyn, unrhyw ragfarnau a allai fod yn bresennolyn yr isymwybod.

Fel y noda McIntosh (2013:78) yn ei phapur sy’n archwilio man gwan cenedlaetholaidd yng nghymdeithas Norwy yn dilyn gweithredoedd terfysgol Anders Breivik: